Highlights & news

Gwisgwch Goch i Gymru a Felindre

Yn dilyn llwyddiant anhygoel Pencampwriaeth Ewro 2016, mae tîm pêl-droed Cymru wedi cymhwyso ar gyfer Ewro 2020 a bydd ymgyrch Gwisgo Coch i Gymru a Felindre yn dechrau ddydd Sadwrn, 12 Mehefin, gyda gêm gyntaf Cymru yn erbyn y Swistir.  

Ni allai cymryd rhan yn ymgyrch Gwisgo Coch fod yn haws; y cyfan fydd angen i chi ei wneud yw gwisgo rhywbeth Coch, cyfrannu £1 a dangos eich cefnogaeth i Gymru a Felindre!

Bydd Felindre yn gweithio gyda’i phartner yn yr Ymddiriedolaeth, Gwasanaeth Gwaed Cymru, ar ddathliad arbennig o’r Bencampwriaeth Ewropeaidd gyda Diwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd ddydd Llun, 14 Mehefin.

Mae Felindre a’i Noddwr, Gareth Bale, yn annog ysgolion i Wisgo Coch ddydd Mercher, 16 Mehefin, pan obeithiwn y bydd Cymru’n stwffio Twrci yn eu hail gêm bwll. Diwrnod olaf yr ymgyrch Gwisgo Coch fydd dydd Sul, 20 Mehefin, pan fyddwn yn gwrthwynebu’r Eidal.

Bydd Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn goleuo llawer o gestyll a thirnodau enwog Cymru, felly cofiwch gymryd hunlun a thagio Cadw a Felindre.

Fel ysgol, y cyfan fydd angen i chi ei wneud yw Gwisgo Coch ddydd Mercher, 16 Mehefin, a Chyfrannu £1. Mae’n hawdd:

  • Cam Un Cliciwch ar y ddolen a chofrestrwch yma
  • Cam Dau  Lledaenwch y gair ymhlith disgyblion, staff a rhieni
  • Cam Tri Gwisgwch Goch a Chyfrannu £1 ar 16 06 2021
  • Cam Pedwar Talwch eich Arian (bydd manylion llawn ar sut i dalu eich arian yn dilyn)

Ar ôl cyfrannu punt, os hoffech gyfrannu peint neu helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd rhoi gwaed, rhannwch y ddolen isod gyda staff a rhieni. Dolen Gwaed Cymru yma:

Mae pandemig Covid wedi cael effaith fawr ar ymgyrchoedd codi arian ac mae yna angen dybryd i elusennau fel Felindre godi arian fel y gallan nhw barhau i ddarparu gofal eithriadol i gleifion canser a’u teuluoedd yng Nghymru. Bydd eich cefnogaeth wrth gymryd rhan yn ymgyrch Gwisgo Coch yn hanfodol i’w helpu i godi arian sydd wir ei angen.

Mawr obeithiwn y gallwch ymuno â ni a phaentio Cymru’n Goch a chefnogi tîm cenedlaethol Cymru yn ogystal â chodi arian hanfodol ar gyfer Ysbyty Gobaith, Canolfan Ganser Felindre.

Click Here to Donate
DONATE TODAY

Inspired? Organise a Fundraising Event

REGISTER YOUR
EVENT OR ACTIVITY

Latest News

12 March 2024

Craig Maxwell completes epic Wales Coast Path challenge to a standing ovation at the Principality Stadium

Read More

20 February 2024

Leading Velindre Consultant joins his patient on the Wales Coastal Path Challenge

Read More

19 February 2024

When Blue Turns Red: blue self storage Supports Velindre Cancer Centre with their ‘Wear Red for Velindre’ Initiative

Read More

Mae fersiwn Gymraeg y wefan hon wrthi'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, os oes angen unrhyw gymorth neu gwybodaeth codi arian arnoch drwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch â 029 2031 6211 neu e-bostiwchinfo@velindrefundraising.com


The welsh language version of this website is currently under construction. In the meantime, if you require any information or fundraising support through the medium of Welsh, please contact 029 2031 6211 or email info@velindrefundraising.com.